🔗 ⚙️

Byd brau from Brigyn 2 by Brigyn

Tracklist
9.Byd brau3:23
Lyrics

Dwi'n trio gwneud fy ngorau
A dyma'r gorau dwi'n gallu'i wneud
Dwi'n trio dal y pwysa
Ond y pwysa sy'n dal i ddeud

Fod hi'n amser i ymlacio
Ond 'dyw ymlacio ddim yn hawdd
Pan mae'r byd yn gofyn gymaint
Gofyn gymaint fesul awr

Dwi'n trio hel fy arian
Ond mae'r arian dw i'n hel
Yn cael i gymryd oddi wrtha i
I ariannu y rhyfel

Ond pa ateb ydi rhyfel
Mewn byd sydd mor frau?
Er mor agos yw y gorwel
Mae'r llinell o hyd yn pellhau...

Credits
from Brigyn 2, released October 24, 2005
© Brigyn
LicenseAll rights reserved.
Tags
Recommendations