🔗 ⚙️

Eneidiau by Burum

Tracklist
1.Cariad Cywir6:58
2.Suo Gân4:19
3.Eneidiau11:14
4.Pibddawns Dowlais3:31
5.Myn Mair14:44
Credits
released July 15, 2022

Tomos Williams - trwmped / trumpet, flugelhorn
Daniel Williams - tenor sax
Patrick Rimes - pibau / pipes, whistles
Dave Jones - piano
Aidan Thorne - bas / bass
Mark O'Connor - drymiau / drums

Liner notes:
Fel ein recordiau blaenorol, trefniannau o alawon gwerin a geir ar ‘Eneidiau’. Rhwystredigaeth cariad yw thema ‘Cariad Cyntaf’, tra mai cariad mam at ei baban sy’n cael ei gyfleu yn ‘Suo Gân’. Mae’r trac ‘Eneidiau’ ei hun yn tynnu ar draddodiadau Ffrengig, Seisnig, Cymreig ac Iddewig. Maent yn cyniwair yma o fewn y pair Affro-Americanaidd sydd yn fframwaith i unrhyw berfformiad jazz. Hen alaw o’r Gymru Babyddol yw ‘Myn Mair’. Mae’n weddi dros enaid cyfaill ar awr ei angau ac yn mynd â ni yn ôl i’r unfed ganrif ar bymtheg, o leiaf.

Recordiwyd ‘Eneidiau’ yn 2021. ‘Blwyddyn y pla’ o fath mwy llythrennol na’r hyn a oedd gan yr hanesydd Gwyn A. Williams mewn golwg pan ddefnyddiodd y term i ddisgrifo 1979. Yn wyneb y ‘Na’ digamsyniol yn Refferendwm Datganoli’r flwyddyn honno, a chychwyn ar gyfnod o lywodraethau Toriaidd, nododd fod y Cymry wastad wedi gorfod ‘dawnsio rhwng olwynion hanes’. Fel gweddill yr albwm, mae’r fersiwn o ‘bibddawns’ ei dref enedigol, Dowlais, yn gyfraniad at gynnal y ddawns yn wyneb heriau heddiw. Daniel Williams

-------------------------------

As in our previous albums, ‘Eneidiau’ (Souls) is a collection of new arrangements of folk songs. ‘Cariad Cywir’ is a song of unrequited love, while ‘Suo Gân’ is a lullaby. The title track draws on Welsh, English, French and Jewish sources, here conversing within the African American crucible that forms the base of any jazz performance. ‘Myn Mair’ is a prayer, delivered at the time of death, pleading for the release of a friend’s soul from purgatory. It is an old melody that takes us back to the 16th century or even earlier.

‘Eneidiau’ was recorded in 2021, a ‘plague year’ of a rather more literal kind than what the historian Gwyn A. Williams had in mind when he used the term to describe 1979. In the year that saw Wales give a resounding ‘no’ to the creation of a devolved assembly, and the beginning of over a decade of Tory governments, he noted that the Welsh have always had to ‘dance’ among the ‘giant cogwheels’ of history. The ‘Pibddawns’ (‘hornpipe’), from his native Dowlais, is offered, like the rest of the album, in the hope that the dance will continue for some time yet. - Daniel Williams

Recordiwyd gan / Recorded by Deri Roberts yn Giant Wafer Studios, Llanbadarn Fynydd. Medi / September 11-14, 2021

Cymysgwyd gan / Mixed by Deri Roberts Rhagfyr / December 2021
Mastrwyd / Mastered gan Donal Whelan @ Hafod Mastering

Diolchiadau / Thanks : Polly Graham, Genesis Foundation, Deri Roberts, Donal Whelan, Giant Wafer Studio, Simon Proffitt, Greg Fisher, Ceri Rhys Matthews, ein teuluoedd a'n ffrindiau.
LicenseAll rights reserved.
Tags
Recommendations