Ynys Aur from Yn Rio by Carwyn Ellis & Rio 18
Tracklist
7. | Ynys Aur | 3:33 |
Videos
Lyrics
Rhywle draw, draw ymhell
Ddim rhy bell o’r cyhydedd
Mae 'na le
Ym Môr Y De
Paradwys hyfryd yw hi
Ynys breuddwyd yw i ni
Mae’i fel y nef
I fi a nghred
Hwylio’i hafonydd hirion
Dringo’i mynyddoedd mawrion
Rhannu’r Gair
I’r Ynys Aur
Cysgu’n sownd mewn caban pren
Sêr anfeidrol uwch fy mhen
A’r heulwen
Diddiwedd
Pan mae’r haf yn dod yma
Mae’n aeaf draw fanna
Ond wastad yn braf
O leiaf
Berwi’n boeth fwy nag erioed
Nofio’n noeth dan olau'r lloer
Rhannu’r Gair
I’r Ynys Aur
Casglu cregyn ar y traeth
Anghofiai byth fy nhaith
Yn rhannu’r Gair
I’r Ynys Aur
Credits
from Yn Rio,
track released September 16, 2021