Wales - 'Cwmtydu' from Coastal Diaries by Heulyn
Tracklist
2. | Wales - 'Cwmtydu' | 2:28 |
Lyrics
'Cwmtydu' gan Tydfor
Rhwng Cei a Llangrannog mae traeth gorau'r byd
Ac yno rwy'n myned o hyd ac o hyd
Un prin iawn ei dywod, dim ond cerrig mân
A'r mor rhwng dau fencyn i'w gadw yn lân
Dau dy sydd i'r hafan Glanmorllyn Glandon
A phawb sydd yno yn gwmni bach llon
Y rhedyn a'r eithin a'r grug ar bob llaw
Bob tro'n eich croesawu fel ffrindiau o draw.
Y ffermydd o'i hamgylch a rhwyma yn dynn
Y Penparc a'r Felin, Caerllan a Phantryn
Y rhain sy'n gofalu na welir y dydd
I'r traeth fynd o'i gafael o'r cwlwm yn rhydd.
Daw'r hâf a'i foduron hyd ymyl y lli
A rhai hwnt i Gymru'n darganfod ei fri
Na synnwch am hynny, does unman yn well
I bawb erbyn heddiw, does unman rhy bell.
Ond pan ddaw y gaeaf a'r erwau yn llwm
Daw heddi deyrnasu dros lethrau y cwm
Ond cri y gwylanod ac ymchwydd y don
Yn torri distawrwydd paradwys fy mron.