Fy Nymuniadau from Carneddi by Iestyn Tyne
Tracklist
11. | Fy Nymuniadau | 4:25 |
Lyrics
Cleddwch fi pan fyddaf farw,
Heb un galar, och, na chri,
Os rhowch garreg, rhowch un arw, –
Dyna fy nymuniad i.
Fe gaiff natur wisgo amdanaf
Yn fy nghafell yn y glyn,
Gŵyr yn well na neb ohonoch, –
Gadewch iddi wneud a fyn.
Nid oes arnaf eisiau pregeth
Pan y rhoddir fi i’r clai,
Peidiwch adrodd fawr o f’hanes,
Hawddach cofio camp na bai.
Cenwch emyn syml, syml,
Ar ryw dôn o’r cywair llon,
Gŵyr y bydd y diwrnod hwnnw
Na bydd gofid yn fy mron.
Credits
from Carneddi,
released May 1, 2025
Geiriau: Walter S. Jones (Gwallter Llyfni, 1883-1932); Alaw 1: Iestyn Tyne | Alaw 2: ‘Cysur’, Thomas Price (1809-1892), trefn. Iestyn Tyne
Geiriau: Walter S. Jones (Gwallter Llyfni, 1883-1932); Alaw 1: Iestyn Tyne | Alaw 2: ‘Cysur’, Thomas Price (1809-1892), trefn. Iestyn Tyne