Galargan Catrin from Carneddi by Iestyn Tyne
Tracklist
10. | Galargan Catrin | 3:23 |
Lyrics
Mae’n oer mewn tre estron a gafael atgofion
yn taeru â’r galon nad digon yw Duw;
â minnau yn unig, yn oedi’n flinedig,
daw clych y Nadolig drwy’r dilyw.
Aeth tri o ’mhlant bychan yn gynnar dan gryman
a chroesi’r lli arian wrth hedfan tua’r haul,
ac un yn laslencyn, aeth yntau o’r dyffryn
i’w dilyn nhw wedyn, a’m gadael.
Y pumed a’u gwyliodd yn mynd draw o’u gwirfodd,
a mynnodd eu dilyn nhw drosodd ryw dro –
yn nŵr oer Llyn Dinas y’i boddwyd heb urddas,
a’r deyrnas o’m cwmpas yn cwympo.
Caf ddatod y cloeon ar fudan ofidion;
daw’r poenau fel ffynnon o’r galon dan gêl,
ac yma mewn gwaeledd ar wely’r ymgeledd,
caf wylo o’r diwedd yn dawel.
Credits
from Carneddi,
released May 1, 2025
Geiriau: Iestyn Tyne; Alaw: ‘Mae’r ddaear yn glasu’, tradd.
Geiriau: Iestyn Tyne; Alaw: ‘Mae’r ddaear yn glasu’, tradd.