🔗 ⚙️

Yr Adlodd from Carneddi by Iestyn Tyne

Tracklist
4.Yr Adlodd5:23
Lyrics

Am degwch fy nghymdogaeth – y soniaf,
Ei swynion sydd odiaeth;
Hulir gweirgloddiau helaeth
O glws drem hyd y glas draeth.

/

Y gwair sydd wedi’i gario
â bendith dan y bondo;
mi ddaw y glaw i’r caeau glân
yn fân – mae’n hydref heno.

Y min aeth o’r crymanau,
a’r aur fu hyd yr erwau,
y mwydro doeth, a chwimder dur
y bladur yn y blodau.

Os yw hi’n llonydd, llonydd,
ar ysgwydd noeth y mynydd
mae’r haf yn glaf, a daw i glyw
rhyw ddilyw ar ei ddolydd.

A’r llwybr at y llethrau
sy’n cymell yn fy nghamau,
a Duw ei hun sy’n gadael dôr
ar agor rhwng y creigiau.

Credits
from Carneddi, released May 1, 2025
Englyn: Richard Griffith (Carneddog, 1861-1947) | Alaw: Iestyn Tyne | Alaw a geiriau’r tribannau: Iestyn Tyne
LicenseAll rights reserved.
Tags
Recommendations