🔗 ⚙️

ffantasi from dream/ffantasi by LOYD

Tracklist
2.ffantasi3:48
Lyrics

Pan fydd y diwrnod ar ben, dwi’n llithro mewn i drwmgwsg du
A’r gwyll yn cydio’n y llen, dwi’n gweld hi’n machlud arna i
A mreuddwyd wedi chwalu
Ai dyma hyn oedd dy gynllun di?
Ac wrth i’r bore nesáu
Pryd nei di wawrio arna i?

O noson dywyll - pryd nei di wawrio arna i?
O noson dywyll - gad i mi fyw fy ffantasi
O noson dywyll - pryd nei di wawrio arna i?
O noson dywyll - pryd nei di wawrio arna i?
O noson dywyll - gad i mi fyw fy ffantasi
O noson dywyll - pryd nei di wawrio arna i?

Lliwiau llawen wedi troi yn welw,
ac mae’r melys wedi troi yn chwerw
Methu hyd ‘noed dweud dy enw,
Gad fi’n rhydd

Wedi trechu? Wedi pechu?
Wedi neud dim byd i fethu
Ac mae’n lladd fi, bob un tro ti’n gyrru fi o ngho’
I’r bedd o’r crud, dwi wedi brwydro a brwydro o hyd

A mae’n hen bryd i ti dalu’n ddrud
Ond pryd, pryd, pryd nei di wawrio arna i?

O noson dywyll - pryd nei di wawrio arna i?
O noson dywyll - gad i mi fyw fy ffantasi
O noson dywyll - pryd nei di wawrio arna i?
O noson dywyll - pryd nei di wawrio arna i?
O noson dywyll - gad i mi fyw fy ffantasi
O noson dywyll - pryd nei di wawrio arna fi?

Credits
from dream/ffantasi, released March 14, 2025
Lloyd Best (Writer/Co-Producer/Composer/Performer), Edward Russell (Co-Producer/Mixing/Mastering), Ian Cottrell (Writer), Katy Mumford (Electric Guitar)
LicenseAll rights reserved.
Tags
Recommendations